Cynulliad Cenedlaethol Cymru

National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon

Health, Social Care and Sport Committee

Ymchwiliad I wasanaethau Nyrsio Cymunedol a Nyrsio Adal

Inquiry into Community and District Nursing services

HSCS(5) CDN12

Ymateb gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Evidence from Older People’s Commissioner for Wales

Diolch ichi am y cyfle i ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor lechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynglYn å'r gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal yng Nghymru.

Mae'r gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal yn chwarae rhan hollbwysig i warchod annibyniaeth unigolion a gofalu am eu hiechyd (gan gynnwys rheoli cyflyrau hirdymor a salwch aciwt) y tu allan i'r ysbytyi

Dros y blynyddoedd diwethaf bu ymdrechion yn mynd rhagddynt i gyflenwi mwy o ofal, a gofal cynyddol gymhleth i unigolion y tu allan i'r ysbyty ac yn y gymuned. Er bod Ilawer o bobl h9n yn croesau hyn, gan nad ydynt o bosibl eisiau aros yn ddiangen yn yr ysbyty na theithio i apwyntiad ysbyty, mae'n dwyn yn ei sgil lawer o heriau ac yn rhoi mwy o bwyslais ar sicrhau bod gennym weithlu sy'n briodol o ran maint, ansawdd a chefnogaeth.

Rwy'n ymwybodol, O'r gefnogaeth gwaith achosion a ddarperir gan fy swyddfa a drwy gyfarfodydd phobl hYn, faint y mae pobl hYn yn gwerthfawrogi'r gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal.

Fodd bynnag, mae nifer fechan o bobl hYn wedi cysylltu å'm swyddfa yn mynegi'r anawsterau a gawsant yn cysylltu å'u gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal. Er enghraifft, mae unigolion wedi bod eisiau newid/ail-drefnu apwyntiadau, codi pryderon am eu cyflwr neu geisio cyngor ar driniaethau, ond maent wedi methu'n län chysylltu ä'u nyrs.

Oherwydd natur eu rolau, rwy'n deall mai ychydig o amser y mae nyrsys cymunedol a nyrsys ardal yn ei dreulio yn y swyddfa — ac eto'r rhif cysylltu a roddwyd i bobl h9n oedd system peiriant ateb yn y swyddfa. Roedd hyn nid yn unig yn achosi straen a gofid, ond roedd hefyd yn creu'r risg y bydd angen i'r unigolion hyn ddefnyddio gwasanaethau gofal heb eu trefnu O'r herwydd.

Gallai person hYn sy'n dibynnu ar y gwasanaethau hyn fod mewn sefyllfa fregus iawn, er enghraifft, oherwydd anawsterau symud neu anghenion gofal a chefnogaeth sydd ganddynt eisoes. Ac ystyried natur fregus y bobl hyn, a'r gofal cynyddol gymhleth sy'n cael ei ddarparu drwy'r gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal, mae'n bwysig sefydlu dull effeithiol o gysylltu a chyfathrebu rhwng nyrsys a phobl h9n ar draws Cymru.

Mae nifer fechan o bobl hYn hefyd wedi mynegi eu pryderon wrthyf ynglYn ag anghytundeb rhyngddynt a'r gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal pan fo'r gwasanaethau'n cael eu tynnu oddi arnynt/oddi ar eu hanwyliaid. Er enghraifft, pan ddywed y gwasanaeth bod unigolyn yn ddigon da neu'n ddigon abl i beidio å chael gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal mwyach a theithio at eu meddyg teulu am apwyntiadau arferol, ond bo'r unigolion/ eu teulu'n teimlo eu bod yn dal angen y gwasanaethau hyn.

Mae'r gwasanaethau hyn yn rhan hanfodol a gwerthfawr iawn O'r broses o gyflwyno gofal iechyd yn ein cymunedau, i rai O'n pobl hYn fwyaf  agored i niwed. Fodd bynnag, rwy'n bryderus y gallai pwysau ychwanegol fod yn cael ei roi ar y gwasanaethau nyrsio cymunedol a nyrsio ardal wrth i nifer gynyddol o wasanaethau iechyd cymhleth gael eu symud allan O'r ysbytai ac i'r gymuned.

Rwy'n ymwybodol bod 1000 0 Fywydau yn gwneud gwaith ar sefydlu'r dystiolaeth a'r dull gweithredu sydd eu hangen i ymestyn Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i nyrsio ardal. Hefyd, mae angen trefniadau I fonitro'n barhaus ansawdd y gwasanaethau hyn, ynghyd chanlyniadau cleifion, niferoedd yn y gweithlu a Ilesiant staff i sicrhau eu bod yn cael digon o adnoddau a bod cleifion yn cael gofal o ansawdd uchel yn eu cartref a'u cymuned wrth i natur a chymhlethdod y gofal hwn newid dros amser.

Rwy'n gobeithio bod y sylwadau hyn o gymorth. Os gallaf fod o unrhyw gymorth pellach, mae croeso ichi gysylltu Catherine Evans O'Brien, fy Arweinydd lechyd a Gofal, ar xxxx neu drwy e-bostio xxxx